top of page
CwmTips_Reedbed.jpg

Amdanom ni

O lo i natur - amddiffyn bywyd gwyllt, cysylltu pobl, dathlu treftadaeth

Bee Beetle.

Gweledigaeth

Dyfodol lle mae safleoedd tomenni glo yn cael eu hamddiffyn a’u dathlu fel hafanau bywiog i fywyd gwyllt, treftadaeth a llês cymunedol

Bwriad

Mae Glo i Natur CIC yn gweithio i amddiffyn, adnewyddu a adfywio y bioamrywiaeth o domeni glo yn cymoedd y De tra’n creu gofodau werdd cynhwysgar sy’n gwell boddhâd cymunedol, dathlu treftadaeth diwidianol a cysylltu pobl o bob oedran gyda natur. 

Sefydlwyd Glo i Natur CIC yn 2025 (Rhif cwmni: 16778185), ac mae’n gwmni buddiant cymunedol sydd wedi ymrwymo i warchod, adfer a dathlu bioamrywiaeth a threftadaeth unigryw safleoedd tomenni glo yng Nghymoedd De Cymru.

Mae’r CIC yn ffrwyth o weledigaeth yr ecolegydd infertebratau Liam Olds, ar ôl dros ddegawd o waith arloesol gyda’i Fenter Bioamrywiaeth Tomenni Glofeydd, a ddangosodd werth ecolegol rhyfeddol y tirweddau hyn, a oedd wedi cael eu hanwybyddu ers blynyddoedd. Gan adeiladu ar y sylfaen hon, sefydlwyd Glo i Natur CIC yn ffurfiol mewn partneriaeth ag aelodau eraill o’r bwrdd, gan gyfuno arbenigedd mewn ecoleg, addysg, ymgyrchu ac ymgysylltu cymunedol.

 

Mae’n gweledigaeth ni’n syml: dyfodol lle mae safleoedd tomenni glo’n cael eu gwarchod a’u gwerthfawrogi fel hafanau bywiog i fywyd gwyllt, treftadaeth a lles cymunedol.

 

Yn Glo i Natur, ni’n gweld safleoedd tomenni glo nid fel creithiau o’r gorffennol, ond fel mannau o obaith ac adnewyddiad. Trwy reoli cynefinoedd yn ymarferol, ymchwil, addysg ac ymgysylltiad cymunedol, ni’n anelu at sicrhau bod y tirweddau hyn yn parhau i gynnal bywyd gwyllt mewn perygl, ac ar yr un pryd yn ysbrydoli pobl i gysylltu â natur a hefyd treftadaeth ddiwydiannol ein cymoedd.

IMG_0677.HEIC

Amcanion

Yn Glo i Natur CIC, mae’n gwaith ni’n cael ei arwain gan bum prif amcan:

1.   Cadwraeth a Rheolaeth Tir

  • Diogelu, adfer ac ehangu cynefinoedd ar safleoedd tomenni glo er mwyn gwarchod rhywogaethau prin a dirywiol.

  • Cynnal gwaith ymarferol ar y tir i greu ecosystemau gwydn sy’n darparu manteision bioamrywiaeth hirdymor.

  • Cynnal arolygon ecolegol, monitro ac ymchwil i lywio camau cadwraeth ac ehangu gwybodaeth am fioamrywiaeth tomenni glo.

 

2.  Ymgysylltu Cymunedol a Lles

  • Cynnig cyfleoedd cynhwysol i bobl o bob oed a gallu i gysylltu â natur a threftadaeth.

  • Hybu iechyd a lles trwy fynediad at fannau gwyrdd llawn bioamrywiaeth a gweithgareddau awyr agored.

  • Dathlu treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol Cymoedd De Cymru trwy ddigwyddiadau, dehongli, a gweithgareddau creadigol.

 

3.  Addysg ac Ymchwil

  • Trefnu rhaglenni addysgol, gweithdai, teithiau tywys, sgyrsiau ac ymgyrchoedd gwyddoniaeth dinasyddion i godi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a threftadaeth tomenni glo.

  • Datblygu a rhannu adnoddau addysgol i ysgolion, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd ehangach i ysbrydoli pobl i werthfawrogi ac amddiffyn y safleoedd hyn.

  • Cefnogi ymchwil academaidd a gwyddoniaeth ddinesig i wella dealltwriaeth ac arferion cadwraeth.

  • Cynnig cyfleoedd i bobl ifanc neu cadwraethwyr gyrfa gynnar trwy wirfoddoli, hyfforddiant neu lleoliadau â thâl, sy’n helpu i datblygu sgilliau ymarferol yn y sector cadwraeth.

 

4.  Cynaliadwyedd a Phartneriaethau

  • Chwilio am ffyrdd i ddiogelu safleoedd trwy brynu tir, gweneud cytundebau gyda pherchnogion, neu roi cyngor ar reolaeth tir.

  • Cydweithio ag awdurdodau lleol, y llywodraeth, tirfeddianwyr, sefydliadau cadwraeth a grwpiau cymunedol i hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o’r domeni.

  • Datblygu partneriaethau i sicrhau amddiffyniad hirdymor ac i gyflawni cadwraeth ar raddfa fawr yng Nghymoedd De Cymru ac ymhellach.

 

5.  Eiriolaeth ac Ymwybyddiaeth

  • Eirioli dros werth ecolegol, diwylliannol a chymunedol safleoedd tomenni glo er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod, eu hamddiffyn a’u dathlu.

  • Cyhoeddi adroddiadau, deunyddiau addysgol a chynnwys cyfryngol i hysbysu ac ysbrydoli cymunedau.

  • Dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau cynllunio i atal colli safleoedd o werth hanesyddol ac ecolegol.

 

Cyfarfod y Tîm

Yn Glo i Natur CIC, mae’n gyfarwyddwyr ni’n dod ag arbenigedd mewn ecoleg, addysg, ymgysylltu cymunedol a rheolaeth cynefinoedd.

 

Mae pob aelod o’r tîm gyda ymrwymiad i amddifyn bioamrywiaeth ar tomenau tra’n helpu pobol cysylltu gyda natur a hanes o’r tirweddau ôl-diwidianol yma.

3a754157-d6a1-40bc-9b1e-c9ed3a483d43_2016x1512.jpg

Liam Olds 

Cyfarwyddwr Ymchwil Gwyddoniaeth 

Liam yw’r ecolegydd infertebratau tu ôl i Glo i Natur CIC, ac mae ei gariad at natur wedi dechrau’n ifanc, yn archwilio tomenni glo ger ei gartref. Astudiodd Zoology ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cwblhau prentisiaeth entomoleg yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

 

Yn 2015, sefydlodd Fenter Bioamrywiaeth Tomenni Glofeydd i hyrwyddo’r cynefinoedd hyn oedd wedi’u hanwybyddu. Dros ddegawd, mae wedi astudio’u bioamrywiaeth ryfeddol ac wedi codi ymwybyddiaeth o’u gwerth ecolegol. Mae ei waith wedi dylanwadu ar reolaeth gadwraeth, polisi cenedlaethol ac amddiffyn safleoedd.

 

Mae ymroddiad Liam hefyd yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach trwy sgyrsiau, teithiau tywys ac ymddangosiadau ar y cyfryngau – gan gynnwys rhaglenni fel Iolo’s Valleys, Wales: Land of the Wild, a The Miners Who Made Us. Mae’i gyflawniadau wedi derbyn cydnabyddiaeth leol a chenedlaethol, gan gynnwys Gwobr Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

IMG_2642.JPG

Carys Romney

Cyfarwyddwr Allgymorth ac Ymgysylltu

Dechreuodd angerdd Carys dros natur yn ystod plentyndod, yn crwydro’r tomenni glo yng Nghymoedd De Cymru. Ers graddio mewn Rheolaeth Cadwraeth Amgylcheddol yn 2015, mae wedi ymroi i gadwraeth leol ac ymgysylltiad cymunedol, gan gredu’n gryf yn fuddiannau llesol cysylltiad â natur.

 

Mae Carys wedi cyd-sefydlu grwpiau fel Litter Free Beddau and Tynant a Friends of Cwm Tips, gan arwain ymgyrchoedd llwyddiannus i warchod safleoedd bywyd gwyllt lleol a threfnu gweithgareddau fel rheoli cynefinoedd a theithiau natur ysgolion. Mae hi hefyd wedi gweithio ar brosiectau cadwraeth mawr gyda Buglife Cymru, The Lost Peatlands Project, ac INCC, gan gyfuno arolygon ecolegol gydag ymgysylltiad cyhoeddus helaeth.

 

Yn ogystal â hynny, mae Carys yn Gynghorydd Cymunedol Llantrisant, lywodraethwr ysgol, ac Gyfarwyddwr Adfer Natur CIC. Mae hi hefyd wedi cyfrannu at ddarganfyddiadau bywyd gwyllt nodedig, gan gynnwys y Llyslwc Pyrenaidd, rhywogaeth newydd i Brydain.

Heather - Bio pic 2.jpg

Heather Light

Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu

Mae Heather wedi treulio dros 25 mlynedd yn gweithio ym maes addysg, gyda dysgwyr o bob oed a gallu, gan hyrwyddo amgylcheddau dysgu cynhwysol a chynhaliol. Fel awdur hunan-gyhoeddedig, mae hi’n plethu ei chariad at natur, cymuned a llês i’w gwaith proffesiynol a’i phrosiectau creadigol, gan adlewyrchu ei chred bod cysylltiad â’r byd naturiol yn hanfodol i fywyd cytbwys a boddhaus.

 

Y tu allan i’r dosbarth, mae Heather yn yngyrchydd amgylcheddol gweithgar, ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar warchod safle tomenni glo ger Aberdâr. Mae hi’n cael ei gyrru gan awydd i ddiogelu ecosystemau lleol a dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal, gan eirioli dros ddefnydd tir cynaliadwy a chyfranogiad cymunedol mewn penderfyniadau amgylcheddol.

 

Boed yn y dosbarth, yn yr awyr agored neu ar y dudalen, mae Heather yn dod â chydymdeimlad, creadigrwydd a phwrpas dwfn i bopeth mae’n ei wneud.​

PXL_20250928_113248201.jpg

Christian Owen

Cyfarwyddwr Cadwraeth a Rheolaeth Tir

Mae Christian ymhlith ecolegwyr infertebratau mwyaf blaenllaw’r DU, gyda chariad oes at natur a’r awyr agored. Ers gadael yr ysgol, mae wedi gweithio ac wedi gwirfoddoli ym maes cefn gwlad, gan ennill profiad helaeth mewn rheoli tir a chadwraeth. Cyn hynny, roedd yn rhedeg busnes tirlunio llwyddiannus cyn dilyn ei alwad wirioneddol fel entomolegydd proffesiynol.

 

Gyda diddordeb penodol mewn rhywogaethau prin ac anghyffredin, mae Christian wedi bod yn rhan o ddarganfod 15 rhywogaeth newydd i Brydain, gan gynnwys tair yn gwbl newydd i wyddoniaeth. Ymhlith ei ddarganfyddiadau enwocaf mae’r “Bwystfil Maerdy” a’r “Bwystfil Beddau” (miltroed), a’r “Hanner-gwilithien Alsatiad”, sydd wedi denu sylw gwyddonol a chyhoeddus fel ei gilydd.

 

Mae gwaith Christian yn adlewyrchu cyfuniad prin o arbenigedd ecolegol a sgil ymarferol, gan ddatgelu cyfoeth cudd y cynefinoedd hyn sydd wedi cael eu tanbrisio, a dangos eu pwysigrwydd i wyddoniaeth a chadwraeth.

bottom of page