Amdanom ni
Mae Glo i Natur CIC yn bodoli i warchod, adfer ac ehangu bioamrywiaeth ar safleoedd tomenni glo ar draws Cymoedd De Cymru. Mae’r tirweddau unigryw yma, ers talwm wedi’u siapio gan y diwydiant glo, bellach yn cynnig cynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt ac yn rhoi cyfle i bobl gysylltu’n uniongyrchol â natur.
​
Mae ein gwaith ni’n canolbwyntio ar ddiogelu rhywogaethau sydd dan fygythiad, gwella cynefinoedd, a sicrhau fod y safleoedd yma’n aros yn llefydd gwyrdd hygyrch sy’n cefnogi iechyd a lles cymunedau lleol. Drwy gyfuno cadwraeth ag addysg, ymchwil ac ymgysylltiad cyhoeddus, ni’n dangos sut mae llefydd unwaith wedi’u creithio gan ddiwydiant yn gallu troi’n ardaloedd o obaith, dysgu ac adnewyddiad.
Ni hefyd yn dathlu treftadaeth ddiwydiannol y Cymoedd, gan gydnabod y cysylltiadau dwfn rhwng pobl leol a’r tirweddau glofaol hyn. Trwy’n prosiectau, ni’n anelu at anrhydeddu’r dreftadaeth yma wrth adeiladu dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd.


Pam Mae Safleoedd Tomenni Glo Mor Bwysig



Am dros ganrif, cafodd Cymoedd De Cymru eu diffinio gan y diwydiant glo. Fe luniodd y diwydiant yma gymunedau, tanio Chwyldro Diwydiannol Prydain, a gadael ôl o domenni a glofeydd yn segur. Dros amser, mae natur wedi adfeddiannu’r llefydd hyn, gan eu troi’n dirweddau byw a phrysur. Unwaith roeddant yn cael eu gweld fel “ddolur llygad”, maen nhw bellach yn cynnal amrywiaeth anhygoel o fywyd – o adar, mamaliaid ac ymlusgiaid i blanhigion, ffwn, cennau, mwsoglau ac infertebratau. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae rhywogaethau newydd i Gymru, i’r DU, a hyd yn oed i wyddoniaeth ei hun, wedi’u darganfod ar y safleoedd hyn – sy’n dangos pa mor unigryw a gwerthfawr ydyn nhw. Mae llawer ohonyn nhw bellach yn ffannau “poeth” o ran bioamrywiaeth, yn aml yn gyfoethocach o rywogaethau na’r cefn gwlad o’u cwmpas.
​
Ond er gwaethaf eu pwysigrwydd, mae safleoedd tomenni glo dal yn cael eu camddeall a’u tanbrisio. Yn rhy aml, maen nhw’n cael eu gweld fel tir segur di-werth ac yn cael eu hanwybyddu mewn cynllunio cadwraeth, heb unrhyw amddiffyniad cyfreithiol. Bob blwyddyn, mae safleoedd o werth ecolegol, diwylliannol a hanesyddol sylweddol yn cael eu colli i ddatblygiadau, adfer tir neu esgeulustod – colled na ellir ei adfer, i fywyd gwyllt ac i bobl fel ei gilydd.
​
Ni’n byw mewn argyfwng natur a hinsawdd. Ers y Chwyldro Diwydiannol, mae’r DU wedi colli tua hanner ei bioamrywiaeth, ac erbyn heddiw mae un rhywogaeth o bob chwech mewn perygl o ddiflannu. Mae safleoedd tomenni glo bellach yn darparu lloches hanfodol i fywyd gwyllt yng Nghymoedd De Cymru, gan weithredu fel carreg lam sy’n cysylltu cynefinoedd ar wasgar ac yn helpu rhywogaethau i symud ac addasu i newid hinsawdd. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan mewn hel carbon ac yn cynnig mannau gwyrdd hygyrch sy’n llesol i gymunedau lleol.
​
Yn Glo i Natur CIC, ni’n gweld y tirweddau hyn, nid fel gweddillion y gorffennol ond fel llefydd o obaith – lle mae natur a threftadaeth yn dod ynghÅ·d i ysbrydoli dyfodol gwyrddach, iachach ac yn fwy cadarn.
Cefnogwch ein Gwaith
Yn Glo i Natur CIC, ’da ni’n ymroddedig i warchod, adfer a dathlu bioamrywiaeth a threftadaeth unigryw safleoedd tomenni glo ar draws De Cymru.
Fel Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC), ni’n gweithredu fel sefydliad dielw ac yn dibynnu ar gyllid allanol a rhoddion i gyflawni’n gwaith – i ddiogelu rhywogaethau dan fygythiad ac i helpu cymunedau lleol i gysylltu â natur.
Mae pob cyfraniad, waeth pa mor fach, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Mae pob rhodd yn mynd yn syth at waith cadwraeth ymarferol, ymchwil, ac at brosiectau cymunedol sy’n amddiffyn treftadaeth naturiol a ddiwylliannol Cymoedd De Cymru.​







