Mae Ein Cwm Cynon yn brosiect newydd cyffrous sy'n cael ei ddatblygu gan CBC Glo i Natur i archwilio sut y gall cymunedau ar draws Cwm Cynon uchaf ailgysylltu â'u tirweddau, eu treftadaeth a'u bywyd gwyllt lleol.
Mae Ein Cwm Cynon yn cael ei gefnogi gan grant gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Mae'r Gronfa wedi'i sefydlu gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau sy'n cynnal Fferm Wynt Pen y Cymoedd.
Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar hen safleoedd sborion glo gan gynnwys Tomen Cefnpennar, Tomen Cwmaman, Tomen Aberaman a Pharc Gwledig Cwm Dâr. Mae'r tirweddau hyn, a fu unwaith yn ddiwydiannol, wedi trawsnewid yn naturiol yn gynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt a mannau gwyrdd i bobl leol, ond yn aml maent yn parhau i gael eu tanddefnyddio ar gyfer gweithgaredd cymunedol, dysgu a lles.
Bydd y cam datblygu presennol yn rhedeg dros dri mis gan ddechrau ym mis Ebrill 2026 ac mae'n ymwneud â gwrando, cydweithio a datblygu ar y cyd. Drwy sesiynau galw heibio cymunedol, ymgynghoriadau, sesiynau blasu peilot a gweithio mewn partneriaeth, ein nod yw dylunio rhaglen hirdymor, dan arweiniad y gymuned, sy'n adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau lleol. Bydd y prosiect yn dod â thrigolion, ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau partner ynghyd i siapio gweledigaeth gyffredin ar gyfer y mannau hyn.
Wrth edrych ymlaen, mae'r prosiect yn anelu at:
-
Wella mynediad at fannau gwyrdd lleol
-
Gwella lles meddyliol a chorfforol
-
Meithrin balchder yn y dreftadaeth a'r dirwedd leol
-
Cynyddu dealltwriaeth o fywyd gwyllt ac adferiad byd natur
-
Adfer cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau dan fygythiad
-
Creu cyfleoedd ar gyfer dysgu, gwirfoddoli a datblygu sgiliau
Bydd ffocws cryf yn cael ei roi ar gynhwysiant, gan sicrhau y gall pobl o bob oed a chefndir, yn enwedig y rhai a allai wynebu rhwystrau i gael mynediad at fyd natur, gymryd rhan a helpu siapio’r prosiect.
Bydd cam datblygu hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer rhaglen hirdymor sy'n darparu manteision amgylcheddol, cymdeithasol a lles parhaol ledled Cwm Cynon.
Cysylltwch â ni os hoffech chi fod yn rhan o'r prosiect, boed fel unigolyn, aelod o'r gymuned neu gynrychiolydd sefydliad. A pheidiwch ag anghofio cadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf a manylion am ddigwyddiadau sydd ar ddod.